Mae dau lanc yn eu harddegau wedi cael eu harestio ar amheuaeth o baratoi i deithio i Syria.
Cafodd y bechgyn, sydd yn 17 mlwydd oed, eu harestio yn eu cartrefi yn Coventry gan swyddogion o Uned Gwrthfrawychiaeth Gorllewin Canolbarth Lloegr tua 6yb dydd Mawrth.
Dywedodd yr heddlu nad oedd unrhyw risg uniongyrchol i’r cyhoedd ac mae’r bechgyn ar hyn o bryd yn cael eu cadw yn y ddalfa yn ardal Gorllewin Canolbarth Lloegr.
Maent wedi cael eu cadw dan ddeddfwriaeth Pace, sy’n rhoi uchafswm o 36 awr i’r heddlu cyn gorfod cyhuddo, rhyddhau, rhoi mechnïaeth neu wneud cais i lys am warant i’w cadw dan glo am gyfnod hirach.