Mae cwmni Wonga, sy’n rhoi benthyciadau tymor byr, wedi dweud ei fod yn optimistaidd er gwaethaf colledion o £37.3 miliwn.
Mae’n dilyn gostyngiad sylweddol mewn benthyciadau gan gwsmeriaid yn y DU.
Roedd elw’r cwmni wedi gostwng £100 miliwn i £217.2 miliwn y llynedd.
Dywedodd y cwmni, a oedd yn un o’r cwmnïau benthyciadau tymor byr mwyaf ym Mhrydain, bod nifer y cwsmeriaid wedi gostwng o fwy na miliwn i 575,000.
Mae’r cwmni wedi bod yn ceisio adfer ei enw da yn sgil cyfres o sgandalau a arweiniodd at reolau llymach gan y corff sy’n goruchwylio’r diwydiant er mwyn atal pobl rhag mynd i ragor o ddyled.
Mae Wonga wedi adolygu ei fusnes er mwyn sicrhau ei fod yn rhoi benthyciadau i gwsmeriaid sy’n gallu ad-dalu’r arian.
Roedd y cwmni wedi cyhoeddi cynlluniau i gael gwared a 325 o swyddi yn gynharach eleni.
Ond mae prif weithredwr Wonga, Andy Haste, wedi dweud ei fod yn hyderus y bydd y cwmni yn gallu parhau er gwaetha’r rheoliadau llymach.
Dywedodd fod y cwmni yn bwriadu cyflwyno gwasanaethau eraill er mwyn apelio i nifer ehangach o gwsmeriaid ac ail-lansio ei hun yn ddiweddarach eleni.
Y llynedd cafodd Wonga orchymyn gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) i dalu iawndal o £2.6 miliwn ar ôl anfon llythyron cyfreithiol ffug at 45,000 o gwsmeriaid.