Graff yn dangos pobl yn cofrestru i bleidleisio
Fe gofrestrodd bron i hanner miliwn o bobl ddoe er mwyn pleidleisio yn yr etholiad cyffredinol ar 7 Mai, y diwrnod olaf iddyn nhw fedru gwneud hynny.
Ddoe a dros y penwythnos bu’r cyfryngau, gwleidyddion ac unigolion ar gyfryngau cymdeithasol yn annog pobl i gofrestru, ac mae’n ymddangos bod hynny wedi cael effaith.
Roedd degau o filoedd o bobl eisoes wedi bod yn cofrestru ar wefan y llywodraeth bob dydd er mwyn gallu pleidleisio yn yr etholiad mewn ychydig dros bythefnos.
A ddoe cafwyd 485,012 o bobl yn cofrestru, y rhan fwyaf ohonyn nhw ar-lein, wrth i’r cloc nesáu at hanner nos.
Pobl ifanc yn cofrestru
Roedd llawer o’r rheiny gofrestrodd i bleidleisio ar y diwrnod olaf yn bobl ifanc, gyda 137,000 o etholwyr rhwng 18 a 24 oed yn cofrestru, a 152,000 o bobl rhwng 25 a 34 yn gwneud yr un peth.
Bellach mae dros 95% o bobl yn cofrestru ar-lein i bleidleisio yn yr etholiad cyffredinol, yn hytrach na llenwi ffurflenni papur.
Mae’r system gofrestru pleidleisiau wedi cael ei newid ar gyfer yr etholiad eleni, gyda phob unigolyn yn gorfod cofrestru’n unigol a dim modd i un person gofrestru pawb yn y cartref.
Yn ogystal â hynny dyw prifysgolion ddim bellach yn cofrestru holl fyfyrwyr eu neuaddau preswyl, gan arwain at bryderon bod miloedd ohonyn nhw ddim yn mynd i fod yn gallu pleidleisio.