Mae sawl elfen o gynllun Cyngor Castell-nedd Port Talbot i sefydlu ysgol uwchradd Gymraeg newydd ym Mhort Talbot yn “ddiffygiol, amwys neu’n annigonol” ac mae angen mynd i’r afael a’r mater ar frys.
Dyna yw galwad cangen mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) yr ardal wrth i Gyngor Castell-nedd Port Talbot baratoi at drafod adroddiad ar y cynnig arfaethedig yfory.
Mae aelodau’r gangen yn gofyn i Gyngor Castell-nedd Port Talbot i sicrhau bod buddsoddiad yn yr ysgol newydd yn cyfateb i wariant ar ysgol uwchradd Saesneg newydd gyfagos.
Ar ben hynny, mae angen i’r cyngor roi sicrwydd o fuddsoddiad ariannol mwy cadarn ar y cynllun a nodi’r union wariant ar yr ysgol Gymraeg newydd cyn derbyn y cynnig sydd gerbron, yn ôl RhAG.
‘Dim cyfaddawd’
“Mae’r egwyddor o ddatblygu addysg Gymraeg yn y Sir yn un i’w chroesawu, ond mae sawl elfen o’r cynllun ar ei wedd bresennol yn ddiffygiol, amwys neu’n annigonol,” meddai Kelvin Edwards ar ran RhAG yn yr ardal.
“Galwn am sicrwydd y bydd buddsoddiad yn yr ysgol Gymraeg arfaethedig yn gyfatebol i’r gwariant ar ysgol uwchradd Saesneg newydd sbon gyfagos.
“Rhaid sicrhau y bydd y ddwy ysgol yn medru darparu addysg gyfatebol o’r radd flaenaf i ddisgyblion y Sir. Ni ddylid cyfaddawdu ar ansawdd a safon yr adnoddau; dylai’r disgyblion gael yn union yr un cyfleoedd pa bynnag gyfrwng iaith yw eu haddysg.”
‘Sylfaen gref’
Ychwanegodd Ceri Owen, Cyfarwyddwr Datblygu RhAG bod angen mynd i’r afael â’r mater hwn ar fyrder er mwyn “rhoi cynnig cyflawn a theg i rieni, fydd yn eu cymell i barhau i ddewis addysg Gymraeg.”
“Mae darparu sicrwydd o fuddsoddiad digonol yn ogystal â rhoi mwy o gig ar asgwrn y cynllun yn gyffredinol yn gwbl hanfodol er mwyn lliniaru ofnau a phryderon ac er mwyn gosod sylfaen gref i’r ysgol newydd ffynnu o’r cychwyn cyntaf.”
‘Ystyried yr ymatebion’
Dywedodd llefarydd o’r cyngor: “Ar hyn o bryd rydym yn ystyried yr ymatebion a dderbyniwyd i’r ymgynghoriad i sefydlu ysgol ‘gyflawn’ sy’n darparu addysg Gymraeg i ddisgyblion 3-18 oed yng ngogledd y fwrdeistref sirol a 11-16 oed yn ne’r fwrdeistref sirol.
“Fe fydd sylwadau RhAG yn cael eu hystyried yn yr un modd â’r ystod eang o ymatebion eraill a dderbyniwyd.”