Mae dyn 22 oed wedi marw ôl damwain gyda Jac Codi Baw (JCB) yn Crosshands, Sir Gaerfyrddin y bore ‘ma.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Gower Foods yn Heol Tŷ Newydd toc wedi 8:00yb ond bu farw’r dyn yn y fan a’r lle.
Mae ymchwiliad wedi cychwyn i’r digwyddiad ac mae’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi cael eu hysbysu.
Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru bod ail ddyn wedi’i gludo i Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli am archwiliad.
Mae’n debyg y bydd archwilwyr o’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn ymweld â’r safle y prynhawn yma.