Mae trefnydd Cerddwn Ymlaen wedi wfftio honiadau BBC Cymru nad oedd yr elusen wedi codi pryderon am drefniadau iechyd a diogelwch cyn gohirio taith gerdded i Batagonia fis diwethaf.

Heddiw, dywedodd y BBC eu bod nhw wedi gweld dogfennau swyddogol oedd yn tanlinellu ffiniau’r daith gerdded ac e-byst rhwng y trefnwyr yng Nghymru a Phatagonia.

Ym mis Tachwedd eleni, roedd 150 o Gymry i fod i fynd i’r Wladfa ar daith gerdded elusennol 10 diwrnod er mwyn dilyn yn ôl traed y Cymry cyntaf i ddarganfod Cwm Hyfryd yn 1885.

Roedd y daith yn rhan o ymgyrch elusennol y canwr Rhys Meirion a dathliadau 150 mlynedd y Wladfa, ac roedd disgwyl i’r rhai oedd yn cymryd rhan gerdded 80 milltir a chasglu £4,000 yr un ar gyfer y daith.

Byddai’r arian a godwyd yn mynd i Gronfa Elen, i gefnogi rhoi organau yng Nghymru, ac i Ysgol y Cwm ym Mhatagonia.

‘Pryderon’

Ond dywedodd Eryl Vaughan, trefnydd Cerddwn Ymlaen, wrth golwg360 heddiw ei fod yn “gresynu’n fawr iawn” fod y BBC wedi darlledu’r stori.

Meddai ei fod yn credu fod y dogfennau wedi dod i law’r BBC gan y dyn oedd wedi cael ei benodi’n drefnydd y daith ym Mhatagonia, Jeremy Wood.

Dywedodd Eryl Vaughan: “Es i i’r Wladfa am bum diwrnod ym mis Tachwedd i neud gwaith checio.

“Oherwydd y daith honno, daeth nifer o bryderon i’r amlwg, ac un ohonynt oedd ymddygiad Jeremy Wood ei hun.

“Fe ddaethon ni i’r casgliad yn y pen draw nad oedd o’n gallu gwarantu lefelau o drefniadaeth, yn enwedig trefniadaeth iechyd a diogelwch.”

Ychwanegodd fod Jeremy Wood wedi gwrthod trafod y drafft cytundeb anfonwyd ato gan Cerddwn Ymlaen oedd yn gofyn am warantu y byddai’n rhoi’r trefniadau hynny mewn lle.

Yn sgil hynny, meddai Eryl Vaughan, “fe wnaeth pwyllgor Cerddwn Ymlaen bleidleisio’n unfrydol i dynnu nôl o’r prosiect yma.”

Dywedodd hefyd ei fod yn credu mai achos o “rawnwin surion” oedd hi bod y dogfennau wedi dod i law’r BBC.

Ysgol y Cwm

Roedd y BBC hefyd wedi dweud mai pryder arall gan y trefnwyr ym Mhatagonia oedd nad oedd hi’n eglur faint o arian y daith fyddai’n mynd i’r ysgol Gymraeg yn y Wladfa, Ysgol y Cwm.

Dywedodd Eryl Vaughan mai un o’r problemau o ochr Cerddwn Ymlaen oedd bod Jeremy Wood yn “gosod ei hun rhyngom ni ag Ysgol y Cwm.”

Taith mis Gorffennaf

Ond pwysleisiodd Eryl Vaughan fod  gan Cerddwn Ymlaen “gysylltiadau da iawn ymysg pobl y Wladfa”  a bod trafodaethau positif yn parhau i drefnu’r daith rhywbryd eto yn y dyfodol.

Dywedodd hefyd y bydd her nesaf Rhys Meirion – Cylchdaith Cymru – ble bydd y tenor o Ruthun yn arwain taith o amgylch Cymru gan geisio defnyddio cymaint o ffyrdd gwahanol o deithio ag sy’n bosib, yn gweld y brodyr a chantorion o Batagonia, Leonardo ac Alejandro Jones, yn ymuno a’r daith ac yn diddanu cynulleidfaoedd gyda’r nos.