Syr John Chilcot
Mae’n annhebygol y bydd adroddiad ar ryfel Irac yn cael ei gyhoeddi cyn diwedd y flwyddyn, yn ôl adroddiadau newydd.

Bum mlynedd ers i’r ymchwiliad ddechrau, mae rhaglen Newsnight y BBC yn dweud bod oedi pellach cyn cyhoeddi’r adroddiad wedi ei achosi gan broses Maxwellisation – sy’n rhoi cyfle i unigolion sy’n cael eu beirniadu yn yr adroddiad i ymateb.

Dywedodd ffynhonnell sy’n agos at yr ymchwiliad wrth ohebydd Newsnight, Mark Urban: “Does neb yn credu y bydd yn dod allan cyn diwedd y flwyddyn.”

Mae cadeirydd y panel Syr John Chilcot eisoes wedi gorfod amddiffyn yr oedi ym mis Ionawr, ar ôl iddo ddweud na fyddai’r adroddiad yn cael ei ryddhau cyn yr etholiad.

Rhwystredig

Roedd y Prif Weinidog David Cameron ymysg y rhai wnaeth fynegi eu “rhwystredigaeth” ynglŷn â’r oedi ac mae’r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg wedi dweud ei fod wedi “siomi y tu hwnt i eiriau.”

Cafodd yr ymchwiliad ei sefydlu yn wreiddiol gan y Prif Weinidog ar y pryd Gordon Brown yn 2009 – a bu’r ymchwiliad yn cymryd tystiolaeth hyd at 2011.