Eloise Aimee Parry
Mae cwest wedi cael ei agor a’i ohirio i farwolaeth merch 21 oed o’r Amwythig a fu farw ar ôl cymryd tabledi colli pwysau oedd yn cynnwys cemegyn gwenwynig.
Dywedodd Heddlu Gorllewin Mercia bod Eloise Aimee Parry wedi marw yn yr ysbyty ar 12 Ebrill wedi iddi gymryd y tabledi yr oedd hi wedi prynu dros y we.
Mae profion yn parhau i gael eu cynnal ond y gred yw bod y tabledi yn cynnwys y cemegyn dinitrophenol (DNP).
Rhybudd
Wrth i swyddogion gynnal ymchwiliad llawn i’r farwolaeth, maen nhw’n rhybuddio pobol i beidio prynu meddyginiaethau dros y rhyngrwyd.
“Rydym yn bryderus iawn ynglŷn â gwerthiant y tabledi ac yn ceisio canfod o le y daethon nhw,” meddai’r Prif Arolygydd Jennifer Mattinson.
“Rydym hefyd yn annog y cyhoedd i fod yn ofalus iawn wrth brynu meddyginiaeth neu sylweddau dros y we.”
Mewn datganiad, dywedodd mam Eloise Parry, Fiona Parry: “Mae hi’n ofnadwy o drist bod ei bywyd wedi gorffen mor fuan, ac mewn gwirionedd, wedi dod i ben cyn iddo ddechrau.”
Roedd Eloise Parry yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Glyndwr.