Mae’r cyflwynydd teledu Jeremy Clarkson wedi datgelu bod meddyg wedi dweud wrtho ddeuddydd cyn y ffrwgwd arweiniodd at ei ddiswyddo, ei fod “fwy na thebyg” yn dioddef o ganser.

Penderfynodd y BBC beidio ag adnewyddu cytundeb cyflwynydd Top Gear yn dilyn y ffrwgwd â chynhyrchydd ‘Top Gear’, Oisin Tymon mewn gwesty yn Swydd Efrog.

Mewn colofn yn y Sunday Times, dywed Clarkson: “Ro’n i’n teimlo’n sâl gan fy mod i wedi colli fy nghartref a fy mam, ro’n i wedi taflu fy hun yn fwy egnïol i mewn i fy ngwaith a nawr, yn dwp, ro’n i wedi llwyddo i golli hynny hefyd.”

Ychwanegodd fod colli ei swydd fel cyflwynydd ‘Top Gear’ yn “dwll du yng nghanol fy nghalon”.

“Deuddydd cyn y “ffrwgwd”, roedd fy meddyg wedi dweud yn ddifrifol iawn fod y lwmpyn ar fy nhafod fwy na thebyg yn ganser a bod rhaid i fi fynd ar unwaith i wirio’r peth.

“Ond allwn i ddim gwneud hynny. Roedden ni ynghanol cyfres ‘Top Gear’. ‘Top Gear’ oedd yn dod gyntaf bob tro.”

Cafodd Clarkson wybod yn ddiweddarach nad oedd e’n dioddef o ganser wedi’r cyfan.