Mae Aelod Seneddol Llafur yr Alban, Tom McCabe wedi marw’n 60 oed.

Cafodd McCabe ei ethol yn Aelod Seneddol dros Dde Hamilton pan gafodd Senedd yr Alban ei sefydlu yn 1999.

Roedd yn Ysgrifennydd Cyllid ac roedd yn ddeilydd nifer o swyddi eraill yn y Senedd cyn i’r SNP ddod i rym yn 2011 pan gollodd ei sedd.

Mewn teyrnged, dywedodd arweinydd Llafur yr Alban, Jim Murphy: “Mae meddyliau a gweddïau pawb ym mudiad Llafur yr Alban gyda theulu Tom McCabe heddiw.

“Mae’r ffaith ei fod wedi marw’n gymharol ifanc a chyda chymaint i’w roi o hyd yn ei gwneud hi’n fwy anodd deall a derbyn.

“Roedd Tom McCabe yn ddyn da.

“Roedd yn was ffyddlon i fudiad Llafur, ac yn Weinidog Cyllid radical yn y Llywodraeth Lafur ddiwethaf yn yr Alban.

“Fe wnes i fwynhau cwmni Tom bob amser – ac eithrio ar y cwrs golff, lle nad o’n i byth yn gallu ei faeddu fe.”

Dywedodd Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon ar Twitter: “Trist iawn o glywed am farwolaeth cyn Aelod Seneddol Llafur yr Alban, Tom McCabe. Roedd yn ddyn gwirioneddol dda. Mae fy meddyliau gyda’i wraig a’i deulu.”

Dywedodd Llywydd Senedd yr Alban, Tricia Marwick: “Rwy’n drist iawn o glywed am golli Tom.

“Roedd yn ymroddedig i’w deulu, yn enwedig ei ferch fach Ava.”

Ychwanegodd ei fod wedi gwneud “cyfraniad sylweddol” i’r Senedd.