Mae arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband wedi dweud wrth Geidwadwyr aniscr ei fod yn sefyll yn “nhir canol” y byd gwleidyddol.

Ym mhapur newydd yr Observer, dadleua Miliband fod ei blaid yn bwriadu mynd i’r afael ag anghydbwysedd ariannol yn y gymdeithas.

“Rwy’n wleidydd yr adain chwith, ond rwy’n sefyll ble mae prif ffrwd gwleidyddiaeth.

“Rwy yn nhir canol gwleidyddiaeth.”

Wrth apelio’n uniongyrchol, dywed Miliband: “Rwy am estyn allan i bleidleiswyr Torïaidd, pleidleiswyr y Democratiaid Rhyddfrydol, pleidleiswyr Ukip, pobol nad ydyn nhw’n pleidleisio…. i bobol sy’n teimlo na all David Cameron ateb her ein cyfnod ni, sy’n poeni am ein lle yn yr Undeb Ewropeaidd, sy’n meddwl iddyn nhw eu hunain ‘gallwn ni wneud tipyn gwell fel gwlad’.”

Dywed yr Observer mai ymgais yw apêl Miliband i ymateb i honiadau’r Ceidwadwyr ei fod yn barod i glymbleidio â’r SNP pe bai senedd grog ar ôl Mai 7.