Mae Heddlu’r De yn gofidio am ddyn 32 oed sydd wedi diflannu o’i gartref yn Y Barri.

Cafodd yr heddlu wybod am 11 o’r gloch fore ddoe fod Lee Phillips, 32, ar goll.

Dywed yr heddlu ei fod yn denau ac oddeutu 5’7”.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.