Mae dynes 22 oed o Irac wedi pledio’n euog i droseddau brawychol, ac wedi cyfaddef anfon negeseuon ar wefannau cymdeithasol oedd yn annog pobol i gymryd rhan mewn gweithredoedd brawychol.

Roedd Alaa Esayed o Kensington yn llys yr Old Bailey i ateb y cyhuddiad.

Cafodd hi ganiatâd i gyflwyno ple o’r oriel gyhoeddus yn hytrach na mynd i’r doc.

Ni chafodd unrhyw fanylion pellach am y negeseuon ar Twitter ac Instagram eu datgelu yn ystod y gwrandawiad byr.

Mae hi wedi’i chyhuddo o gyhoeddi’r sylwadau rhwng Mehefin 2013 a Mai 2014.

Bydd hi’n cael ei dedfrydu ar Fai 18, ac mae hi wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth yn y cyfamser.