Mae’r heddlu wedi cyhoeddi bod ail berson wedi marw yn dilyn damwain ar yr A470 rhwng Betws y Coed a Llanrwst ddydd Sul.

Bu farw’r gyrrwr beic modur Stephen Probert yn y fan a’r lle ac fe fu farw ei bartner Joanne Winder yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor brynhawn Mawrth.

Roedd y ddau yn byw yn ardal Bae Colwyn.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi apelio o’r newydd am dystion yn dilyn y ddamwain, a ddigwyddodd am 1:20  prynhawn dydd Sul ac yn parhau gydag ymchwiliad i’r digwyddiad.

Ychwanegodd yr heddlu bod teuluoedd y ddau yn cael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol a bod y crwner lleol wedi cael gwybod am y marwolaethau.

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â PC 611 Andrews ar 101.