Roy Keane
Mae is-reolwr tîm pêl-droed Gweriniaeth Iwerddon, Roy Keane wedi gwadu ymddwyn yn ymosodol tuag at yrrwr tacsi.
Plediodd Keane, 43, yn ddieuog i’r drosedd, er nad oedd e’n bresennol yn Llys Ynadon Trafford heddiw.
Honnir bod Keane wedi ymddwyn mewn ffordd ymosodol tuag at Fateh Kerar ger goleuadau traffig yn Altrincham ar Ionawr 30.
Mae e wedi’i gyhuddo o aflonyddu, peri gofid a phryder i Kerar.
Mae disgwyl i ddau dyst ymddangos ar ran yr erlyniad, tra bydd Keane ac un unigolyn arall yn dystion i’r amddiffyniad.
Does dim lluniau camera cylch-cyfyng o’r digwyddiad.
Mae disgwyl i Keane ymddangos gerbron Llys Ynadon Manceinion ar Fehefin 19.
Yn ystod ei yrfa fel chwaraewr, treuliodd Keane gyfnodau gyda Nottingham Forest a Celtic ond fe fydd yn cael ei gofio’n bennaf fel capten tîm llwyddiannus Man U o dan reolaeth Syr Alex Ferguson.
Ers i’w yrfa ddod i ben, mae e wedi rheoli Sunderland ac Ipswich, wedi cynorthwyo’r rheolwr yn Aston Villa a Gweriniaeth Iwerddon, ac mae e hefyd yn wyneb cyfarwydd fel sylwebydd cynorthwyol.