Nicola Sturgeon
Mae arweinydd yr SNP a phrif weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon wedi datgan ei chefnogaeth i Ed Miliband yn yr etholiad cyffredinol.
Daeth ei sylwadau yn ystod y ddadl deledu gyntaf yn yr Alban cyn yr etholiad fis nesaf.
Ar frig yr agenda neithiwr roedd cytundebau ôl-etholiadol, a hynny ar ôl i adroddiadau’r wasg awgrymu fod dogfen Whitehall yn dangos bod Sturgeon yn cefnogi David Cameron.
Ymddangosodd Sturgeon yn y ddadl neithiwr ochr yn ochr â Jim Murphy (Llafur), Ruth Davidson (Ceidwadwyr) a Willie Rennie (Democratiaid Rhyddfrydol).
Galwodd unwaith eto ar i Lafur gydweithio â’r SNP wrth i’w phlaid anelu am y nifer fwyaf o aelodau seneddol yn San Steffan yn eu hanes.
Dywedodd Nicola Sturgeon yn ystod y ddadl: “Os oes mwyafrif gwrth-Dorïaidd yn Nhŷ’r Cyffredin, hyd yn oed os mai’r Torïaid yw’r blaid fwyaf yna fe fyddwn yn cydweithio â Llafur i gadw David Cameron allan o Stryd Downing.”
Wrth ddatgan ei chefnogaeth i Miliband a’r Blaid Lafur, ychwanegodd Sturgeon: “Dw i ddim am i David Cameron fod yn brif weinidog, rwy’n cynnig helpu gwneud Ed Miliband yn brif weinidog.”
Galwodd Murphy ar i bobol yng ngweddill gwledydd Prydain i gael gwared ar y Ceidwadwyr.
“Yr unig ffordd o gau’r blaid Dorïaidd allan yw trwy roi’r allweddi i’r Blaid Lafur,” meddai.
‘Despret’
Ychwanegodd Ruth Davidson fod Sturgeon a’r SNP yn “despret” i gydweithio â Miliband a’r Blaid Lafur, gan honni y byddai’n “dda i annibyniaeth”.
“Mae Ed Miliband yn wan, dydy e ddim yn ddigon da i fod yn brif weinidog ac mae hi am dynnu ar ei linynnau.”
Dywedodd Willie Rennie fod y ffrae tros gydweithio’n “anaeddfed”, a bod angen “sefydlogi’r wlad”.
“Dyna’r cam aeddfed i’w gymryd mewn gwleidyddiaeth, y dull pragmataidd o wleidydda y mae’r bobol am ei gael yn y wlad hon.”