Mae cwmni olew Royal Dutch Shell wedi cyhoeddi ei fod am brynu’r busnes olew a nwy o Brydain, BG Group, mewn cytundeb sy’n rhoi gwerth y cwmni yn £47 biliwn.

Roedd y ddau gwmni wedi cyhoeddi’r cynlluniau i uno mewn datganiad i’r gyfnewidfa stoc yn Llundain.

Daw’r cyhoeddiad wrth i’r diwydiant olew geisio arbed costau wrth i brisiau ynni ostwng.

Mae BG Group yn cyflogi tua 5,200 o staff mewn 24 o wledydd. Cafodd y cwmni nwy i greu yn 1997 ar ôl i Nwy Prydain wahanu i greu dau gwmni ar wahân, gyda Centrica’n cael cyfrifoldeb am adran fanwerthu’r busnes.

Roedd BG wedi gwneud datganiad neithiwr yn cadarnhau ei fod mewn trafodaethau gyda  Royal Dutch Shell. Heddiw, fe gadarnhaodd bod y bwrdd wedi cefnogi’r cynnig gan Shell.