Mae crwner Ceredigion wedi agor a gohirio cwest i farwolaeth dyn fu farw mewn damwain lori ludw ger Aberystwyth.

Cafodd Stephen Joseph Cuddy, 42 oed o Benparcau ei ladd yn y gwrthdrawiad ger Pontarfynach ar 4 Ebrill.

Roedd o’n wreiddiol o Lerpwl ond fe symudodd i Aberystwyth i ddilyn cwrs gwleidyddiaeth ac athroniaeth yn y brifysgol.

Fe gafodd dyn arall 64 oed ei anafu yn y ddamwain a’i gludo i Ysbyty Treforys ond mae’r heddlu yn dweud nad ydy o mewn cyflwr difrifol.

Mae ymchwiliad ar droed i ganfod achos y ddamwain.