David Cameron a'i wraig Samantha ym mragdy Brains yng Nghaerdydd
Yn ystod ymweliad a bradgy Brains yng Nghaerdydd heddiw, fe ddatgelodd Samantha Cameron ei bod hi’n yfed cwrw stowt pan yn feichiog – gan orfodi ei gwr David Cameron i egluro nad yw hi’n disgwyl eu pumed plentyn.

Mae’r Prif Weinidog a’i wraig yn teithio o gwmpas holl wledydd Prydain heddiw wrth i’r ymgyrch etholiadol ddwysau gyda dim ond 30 diwrnod yn weddill nes yr etholiad ar 7 Mai.

Pan gafodd hi wydred o gwrw tywyll Cymreig yn y bragdy, dywedodd Samantha Cameron: “Dim ond pan dw i’n feichiog ydw i’n yfed hwn fel arfer.”

“Dyw hynny ddim yn gyhoeddiad,” ychwanegodd David Cameron ar frys.

Yn ystod yr ymweliad bu’r ddau hefyd yn dysgu sut i wneud peis gyda help rhai o’r prentisiaid yn y bragdy.

Mae’r Prif Weinidog wedi ymweld â’r Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru yn ystod y dydd cyn teithio ymlaen i Loegr yn ddiweddarach.

Mae wedi galw ar bleidleiswyr UKIP i “ddod adref” at y Ceidwadwyr er mwyn atal Ed Miliband rhag dod i rym.

‘Anhrefn economaidd’

Yn y cyfamser mae’r cyn brif weinidog Llafur, Tony Blair a’i wraig Cherie wedi ymuno yn yr ymgyrch etholiadol gan rybuddio y byddai ail dymor i David Cameron yn arwain at anhrefn economaidd ac ansefydlogrwydd ym Mhrydain.

Mae’r Blaid Lafur heddiw wedi bod yn canolbwyntio ar iechyd, gan honni bod 600 yn llai o feddygon teulu yn cynnig oriau agor mwy hyblyg i gleifion.

Mynd i’r afael a’r rhai sy’n osgoi talu trethi oedd yn cael sylw’r Democratiaid Rhyddfrydol gyda’r blaid yn honni y byddai’n helpu i ariannu cynnydd yn y lwfans personol i £12,500.

Addewid Nigel Farage o UKIP oedd gwario 2% o Gynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) ar amddiffyn.

Bu Plaid Cymru hefyd yn lansio ei hymgyrch drwy alw am gyflog byw, sgrapio Trident a chynnydd o 1% mewn gwariant o’r GDP ar isadeiledd ar draws y DU. Mae’r arweinydd Leanne Wood wedi dweud y byddai polisïau’r blaid nid yn unig yn elwa Cymru ond y DU gyfan.

Yn yr Alban, fe fydd arweinwyr y pedair prif blaid yn wynebu ei gilydd mewn dadl deledu heno.