Mae chwe injan dân yn ceisio rheoli tân eithin mawr ar fynydd Tal-y-Waen ger Dolgellau, Gwynedd.
Cyhoeddodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru bod y tân erbyn hyn wedi lledaenu i ardal o 40 erw.
Mae criwiau o Ddolgellau, Blaenau Ffestiniog, Y Bermo, Tywyn, Bala a Harlech ar y safle wedi iddyn nhw dderbyn galwad frys am tua 1:30 y prynhawn yma.
Nid oes adroddiadau bod unrhyw un wedi brifo.