Nid oedd David Phillips yn bresennol yn y llys heddiw
Mae cyn-arweinydd Cyngor Abertawe, David Phillips, wedi cael ei gyhuddo o adael ‘sbwriel yn anghyfreithlon.
Mewn gwrandawiad byr yn Llys Ynadon Abertawe heddiw, cyhoeddwyd y bydd yr achos yn cael ei gynnal ar 3 Mehefin. Nid oedd David Phillips yn bresennol.
Er na chafodd ple ei gyflwyno, fe wnaeth y cyfreithiwr Tim Jones awgrymu y byddai’r cyn-arweinydd 65 oed yn pledio’n ddieuog.
Mae’r cyhuddiad yn ymwneud â digwyddiad mewn garej gyferbyn a thŷ David Phillips yn ardal Mount Pleasant sydd ddim, yn ôl honiadau, yn berchen iddo.
Roedd yn arweinydd cyngor o 2012 tan fis Medi’r llynedd.