Don McLean
Mae llawysgrif wreiddiol cân enwog Don McLean ‘American Pie’ wedi gwerthu am $1.2 miliwn (£804,976).

Roedd y pecyn oedd ar werth yn yr ocsiwn yn Efrog Newydd yn cynnwys 16 tudalen o lawysgrif wreiddiol a gwahanol ddrafftiau o’r gân.

Cafodd ‘American Pie’ ei rhyddhau yn 1971 ac roedd yn Rhif 1 yn siartiau’r Unol Daleithiau am bedair wythnos yn 1972.

Dywed Don McLean, 69, sy’n byw yn Maine, fod ysgrifennu’r gân yn “daith gyfriniol i’w orffennol.”

Nid yw enw’r prynwr wedi cael ei gyhoeddi.