Mae Plaid Cymru wedi amlinellu cynlluniau a fyddai’n gostwng amseroedd aros i weld meddygon teulu.
Mae Cymru’n wynebu argyfwng gyda bron i 50% o feddygon teulu mewn rhai ardaloedd yn agosáu at oedran ymddeol.
Yn ôl Plaid Cymru, mae ffigyrau hefyd yn dangos fod nifer y meddygon teulu yng Nghymru wedi gostwng dros yr 20 mlynedd diwethaf, er gwaethaf polisi Llywodraeth Cymru i roi gofal i gleifion yn eu cymunedau yn hytrach nag ysbytai.
Recriwtio
Meddai ymgeisydd Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards, fod Llafur wedi methu darparu gwell mynediad at feddygon teulu yng Nghymru.
Mae cynlluniau’r blaid yn cynnwys hyfforddi a recriwtio mil yn rhagor o feddygon i’r GIG yng Nghymru; cynnig cymhelliant ariannol er mwyn recriwtio meddygon; a gwella mynediad at feddygon teulu trwy fuddsoddi mewn telefeddygaeth a thechnoleg.
Yn ôl Plaid Cymru, byddai ei chynlluniau’n ei gwneud hi’n haws nag erioed o’r blaen i gleifion yng Nghymru gael mynediad at eu meddyg teulu.
‘Cynlluniau uchelgeisiol’
Meddai Jonathan Edwards: “Mae gan Blaid Cymru gynlluniau uchelgeisiol i wella mynediad at feddygon teulu ar gyfer cleifion ledled Cymru. Mae Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu wedi cydnabod yr angen am fwy o feddygon, a Phlaid Cymru yw’r unig blaid gyda chynigion pendant i recriwtio a hyfforddi rhagor o feddygon.
“Mae Llywodraeth Lafur yng Nghymru wedi methu â chyflawni ei hymrwymiad maniffesto i wella mynediad at feddygon teulu.
“Byddai Plaid Cymru yn hyfforddi a recriwtio mil o feddygon ychwanegol i’r GIG yng Nghymru, ac yn defnyddio cymhellion ariannol i sicrhau eu bod yn cael eu recriwtio i’r ardaloedd lle mae eu hangen fel bod pawb yng Nghymru yn gallu cael mynediad at eu meddyg teulu pan fyddant ei angen.”