Mae dyn 34 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o lofruddio, wedi i ddyn gael ei drywanu i farwolaeth.

Fe gafodd dyn 52 mlwydd oed ei drywanu yn Heywood, ger Rochdale, tua 5.45yp ddoe. Fe gafodd yr heddlu eu galw i’r cyfeiriad, ac fe gafodd y dioddefwr ei gludo i’r ysbyty, ond bu farw toc ar ôl cyrraedd.

Mae dynes 37 oed, oedd hefyd yn y ty, wedi diodde’ anafiadau i’w hwyneb.

“Tra bod y newydd fod dyn wedi’i ladd yn mynd i ddychryn pobol, mae’n rhaid i ni bwysleisio ein bod ni’n credu mai digwyddiad ynysig ydi hwn,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Greater Manchester.

“Dydan ni ddim yn rhagweld fod yna fygythiad i weddill y gymuned.”