Mae 17 o bobol yn y ddalfa yn Malaysia, ar amheuaeth o gynllwynio i achosi ymosodiadau terfysgol yn ninas Kuala Lumpur.

Yn ôl yr awdurdodau yn y wlad, mae dau o’r rheiny a gafodd eu harestio ddoe, newydd ddychwelyd o Syria.

Erbyn hyn, mae llywodraeth Malaysia wedi arestio degau o bobol sy’n cael eu hamau o fod yn gefnogol i’r grwp terfysgol, Islamic State.

Y mis diwetha’, fe basiwyd cyfraith gwrth-derfysgol sy’n caniatau i cadw pobol yn y ddalfa heb iddyn nhw orfod wynebu achos llys, ac mae’n rhoi caniatad hefyd i gymryd pasbort unrhyw un sy’n cael ei amau o fod yn gefnogol i weithredu terfysgol.