Arglwydd Prescott
Mae’r Arglwydd Prescott wedi amddiffyn hawl Tywysog Cymru i “ysgrifennu cynifer o lythyrau ag y mae’n dymuno” at wleidyddion.
Mae cyn-ddirprwy brif weinidog Prydain, mewn colofn ym mhapur The Sunday Mirror, yn dweud na all weld problem o gwbwl gyda mab y Frenhines yn ysgrifennu at weinidogion llywodraeth.
Y mis diwetha’, fe gyhoeddodd y Goruchaf Lys y bydd yn rhaid i bob llythyr a memo a anfonwyd gan y Tywysog Charles at wleidyddion, rhwng Medi 2004 a Mawrth 2005, gael eu gwneud yn gyhoeddus.
“Er nad ydw i’n frenhinwr mawr, o bell ffordd,” meddai John Prescott, “mae gen i lawer iawn o amser i’r Tywysog. Mae o’n amgylcheddwr angerddol, yn un peth.
“Pan mae unrhyw weinidog yn y llywodraeth yn derbyn gohebiaeth a barn pobol ar fateriol gwleidyddol, mae’n gwneud ei feddwl ei hun i fyny ar y materion hynny. Dyna ydw i’n ei wneud bob amser,” meddai’r Arglwydd Prescott wedyn.
“Mae gan y Tywysog Charles lawer iawn i’w gynnig… ac os ydi o’n dymuno gwasanaethu pobol y deyrnas trwy helpu pobol ifanc ddod o hyd i waith, trwy leihau effaith newid hinsawdd, neu trwy adeiladu cymunedau cynaliadwy, mi gaiff o ysgrifennu cynifer o lythyrau ag y mae o’n dymuno.”