Mae dyn wedi diodde’ ymosodiad machete wedi iddo agor ei ddrws ffrynt i ddyn yn gwisgo masg y cymeriad Jason X o’r ffilm arswyd, Friday The 13th.

Mae’r dioddefwr 40 oed wedi cael anafiadau mawr i’w ben a’i law ac wedi ei gludo i’r ysbyty yn dilyn yr ymosodiad ar stepen ei ddrws yn Chorlton-cum-Hardy, Manceinion.

Roedd yna dri ymosodwr – ac un ohonyn nhw oedd yn gwisgo’r masg Jason X. Fe ymwthiodd y tri eu ffordd i mewn i’r ty.

Ond roedd un person arall yn y ty ar y pryd, ac fe gafodd yr ymosodwyr eu herlid oddi yno, cyn iddyn nhw ddianc mewn car lliw arian.

Mae’r ymosodwyr wedi’u disgrifio fel dau ddyn gwyn ac un o dras gymysg; pob un o’r tri yn denau, a’u taldra’n amrywio o 5 troedfedd 5 modfedd i 6 throedfedd.