Mae’r Pab wedi condemnio’r “tawelwch” sydd ynghylch y modd y mae Cristnogion yn cael eu lladd ar hyd a lled y byd.
Fe wnaeth ei sylwadau wedi seremoni nos Wener y Grog yn Rhufain neithiwr, lle’r oedd dioddefaint Crist yn cael ei gofio.
Un o’r pethau sy’n ei bryderu’n fawr heddiw, meddai, ydi’r modd y mae Cristnogion yn cael eu merthyru mewn rhannau o’r Dwyrain Canol, Affrica a llefydd eraill.
“Rydyn ni’n gweld, hyd yn oed heddiw, ein brodyr yn cael eu herlid, eu croeshoelio a’u lladd, oherwydd eu ffydd yn Iesu Grist,” meddai’r Pab mewn gweddi gyhoeddus.
Ychydig oriau ynghynt, roedd wedi condemnio’r ymosodiad gan wrthryfelwyr Islamaidd ar Gristnogion mewn prifysgol yn Cenia.