Mae heddwas a dynes oedd yn gyrru car wedi’u hanafu heddiw, wrth i gar oedd dan amheuaeth o fod yn rhan o ladrad fynd ar ei ben i mewn i rwystrau croesfan drenau.

Roedd yr heddlu wedi cael eu galw i gyfeiriad yn High Salvington ger Worthing yn West Sussex lle’r oedd dau ddyn wedi’u gweld yn neidio dros ffens gardd ac i mewn i gar. Aeth y car wedyn yn ei flaen, a thri o ddynion ynddo, nes cael ei weld gan yr heddlu ar ffordd yr A259 i gyfeiriad Arundel.

Dyna pryd yr aeth ar ei ben i mewn i rwystrau’r groesfan.

Unwaith y daeth y car i stop y tu draw i’r groesfan, fe aeth ben-ben gyda nifer o gerbydau eraill, yn cynnwys car heddlu.