Owen Smith, llefarydd Llafur ar Faterion Cymreig
Mae Prif Weinidog Cymru a llefarydd Llafur ar Faterion Cymreig, Owen Smith wedi lansio ymgyrch etholiadol eu plaid yn Rhydaman.

Mae’r blaid wedi addo pum peth yn eu maniffesto swyddogol, sef:

1. Sylfaen economaidd gref, sy’n cynnwys lleihau’r diffyg ariannol bob blwyddyn, tra’n diogelu dyfodol y Gwasanaeth Iechyd;

2. Codi safonau byw yng Nghymru drwy rewi biliau ynni, diogelu pensiynau a chynnal trwyddedau bysus rhad ac am ddim i bensiynwyr. Mae’r cynllun hefyd yn cynnwys diddymu cytundebau oriau sero a chodi’r isafswm cyflog i £8 yr awr;

3. Rheoli llif mewnfudwyr drwy eu hatal rhag hawlio budd-daliadau am ddwy flynedd, a chyflwyno rheolau tecach sy’n gwahardd cyflogwyr rhag cyflogi mewnfudwyr am lai o gyflog drwy ecsbloetio gweithwyr;

4. Buddsoddi yn y Gwasanaeth Iechyd, gan hyfforddi 1,000 o feddygon, nyrsys a gweithwyr iechyd ychwanegol, ac ariannu’r cynllun drwy godi treth plasty ar eiddo gwerth mwy na £2m;

5. Dyblu’r ddarpariaeth gofal blynyddoedd cynnar a gofal plant ar gyfer rhieni plant tair neu bedair oed. Mae’r cynllun yn cynnwys cefnogi prentisiaethau ac adeiladu ar gynlluniau tebyg. Bydd y cynllun brecwast am ddim i bob disgybl cynradd yng Nghymru’n parhau.

‘Etholiad pwysicaf ers cenhedlaeth’

Wrth lansio’r ymgyrch, dywedodd Owen Smith: “Heddiw, wrth i ni fynd i mewn i’r etholiad cyffredinol pwysicaf ers cenhedlaeth, rydym yn lansio’n hymgyrch yn y modd yr ydyn ni’n bwriadu’i orffen: allan ar y stryd, ar y stepen ddrws ac yng nghanol trefi Cymru, yn gwrando ar bobol ac yn siarad â phobol am y dewis sy’n ein hwynebu ni ar Fai 7.”

Ychwanegodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones fod pobol Cymru am gael “Llywodraeth Lafur yn San Steffan sy’n deall a pharchu Cymru a datganoli”.

“Mae’r etholiad hwn yn rhoi’r cyfle i ni gael dwy lywodraeth Lafur yn cydweithio er lles Cymru.

“Dyna’r dyfodol sydd ei angen arnom er mwyn brwydro dros y blynyddoedd i ddod – dyfodol o gydweithio, nid rhagor o doriadau a rhagor o wrthdaro.”