Mae bechgyn 19 a 15 oed wedi’u harestio ar amheuaeth o ladrata, wedi digwyddiad yn siop Iceland yng Nghaerffili ben bore heddiw.
Fe gafodd yr heddlu eu galw i siop Iceland ar Heol Caerdydd yng Nghaerffili, yn dilyn adroddiad fod rhywun wedi torri i mewn a dwyn. Mae’r ddau ddyn ifanc yn eu harddegau yn byw yn lleol, ac maen nhw’n parhau yn y ddalfa ar hyn o bryd.
Roedd dau aelod o staff yn y siop pan ddigwyddodd y lladrad, ond chafodd neb ei anafu.
Ar y safle, fe ddaeth Heddlu Gwent o hyd i gyllell a swm o arian parod. Maen nhw hefyd yn gofyn i unrhyw un a allai fod wedi gweld unrhyw beth, i gysylltu ar y rhif 101.