Disgyblion yr Ysgol Gymraeg yn San Steffan ar Ddydd Gwyl Dewi
Mae Cyngor Brent wedi gwrthod rhoi caniatâd i Ysgol Gymraeg Llundain drawsnewid pafiliwn bowlio yn adeilad pwrpasol newydd.
Roedd yr ysgol yn gobeithio gwneud defnydd o’r adeilad ym Mharc King Edward VII yn Wembley ar gyfer mis Medi eleni. Ond mae’r Cyngor wedi gwyrdroi penderfyniad gwreiddiol swyddogion cynllunio.
Fe fu’r ysgol ar safle Ysgol Stonebridge ger Wembley ers pymtheg mlynedd, ond nid yw’r ysgol wedi’i chynnwys yng nghynlluniau’r Cyngor i ail-ddatblygu nac adfywio ardal Stonebridge.
Mae’r Pwyllgor Cynllunio wedi ymddiheuro wrth yr ysgol am y ffordd yr oedd Cyngor Brent wedi eu trin, ac maen nhw wedi galw ar y Cyngor i adleoli’r ysgol a diogelu ei dyfodol.
Mae Bwrdd yr Ysgol wedi gofyn am gynnal cyfarfod brys gyda’r Cyngor.
“Parhau’n hollol bositif”
Mewn datganiad, dywedodd Pennaeth yr ysgol, Julie Griffiths: “Ddydd Mawrth (3 Mawrth), roedd ein hysgol wych yn y Senedd yn canu o flaen ASau i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.
“Cawsom ganmoliaeth uchel am ein cyfraniad i gydbwysedd diwylliannol amrywiol bwrdeistref Brent a’r Deyrnas Unedig. Ni fydd y rhwystr hwn (gwrthod y cais cynllunio) yn lladd brwdfrydedd teuluoedd, staff a bwrdd yr ysgol.
“Rydym yn parhau’n hollol bositif y bydd pobol o bob ffordd o fyw yn y DU yn ein cefnogi ac yn ein helpu i sicrhau ein dyfodol.”