Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o gipio merch fach yn Burnley yn Swydd Gaerhirfryn ddydd Iau.
Cafodd y ferch fach chwech oed ei chipio a’i darganfod dair milltir i ffwrdd hanner awr yn ddiweddarach.
Mae Imran Khan, 33 o Accrington, wedi’i gyhuddo o gipio plentyn, o dorri gorchymyn atal troseddau rhyw ac o annog merch o dan 13 i gyflawni gweithred rywiol.
Fe fydd y dyn yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Burnley heddiw.