Charlie Lee (Llun: Heddlu Gwent)
Mae twyllwr wedi’i garcharu wedi iddo gael hen ddyn i dalu bron iawn i £50,000 ar waith ar ei gartre’ nad oedd yn angenrheidiol.

Fe ddywedodd Charlie Lee, 19, wrth yr hen ddyn fod angen gwneud gwerth miloedd o bunnau o waith ar ei gartre’, wedi iddo honni dod o hyd i “grac” yn y sylfeini. Fe glywodd y llys hefyd fod Charlie Lee, ynghyd a bachgen 17 oed hyd yn oed wedi creu “llythyrau cyfreithiol” er mwyn hawlio mwy o arian gan yr henwr.

Roedd y ddau wedi ymddwyn fel drwgweithredwyr calon-galed, er eu bod yn edrych yn ddiniwed, meddai’r barnwr, Gregg Bull QC yn Llys y Goron Casnewydd.

Fe dalodd y dioddefwyr yn yr achos gyfanswm o £47,000 dros dair wythnos – a hynny am waith oedd yn werth dim ond £2,200.

Mae Charlie Lee wedi’i anfon i’r carchar am 19 mis, a’r bachgen 17 oed wedi’i ddedfrydu i 18 mis mewn sefydliad i droseddwyr ifanc.