Mae dyfais newydd wedi’i dyfeisio i helpu i leihau lefelau siwgr yng ngwaed dioddefwyr clefyd siwgr.

Mae’r ddyfais yn dynwared gallu’r pancreas i ddarogan y pyliau hyn, yn ôl y cynhyrchwyr Medtronic, ac fe fydd yn helpu pobol sy’n dioddef o Fath 1 y clefyd. Bydd y ddyfais ar gael i gleifion y Gwasanaeth Iechyd.

Dywedodd prif weithredwr Sefydliad Ymchwil Clefyd y Siwgr, Karen Addington: “Mae math 1 o glefyd y siwgr yn gyflwr cymhleth a heriol sydd ar gynnydd yn y Deyrnas Unedig.

“Mae gofyn hunan-reolaeth ddwys ddydd a nos.

“Mae pobol sydd yn cael eu heffeithio gan y cyflwr – gan gynnwys rhieni a phlant bach sydd â’r cyflwr – yn croesawu technoleg all helpu i reoli lefelau glwcos yn y gwaed a thawelu meddyliau.”

Dywed Medtronic fod y ddyfais yn defnyddio technoleg arbennig sy’n atal inswlin rhag mynd i mewn i’r llif gwaed cyn i glaf gyrraedd lefel beryglus, ac fe all atal lefel uchel hefyd.

Yn ystod arbrofion, fe reolodd y ddyfais lefelau gwaed wyth allan o 10 o gleifion ar ôl iddyn nhw wneud ymarfer corff.