Mae 22% o staff ysgol yn dweud eu bod nhw wedi cael eu cyhuddo ar gam gan ddisgybl, yn ôl arolwg.
Dywedodd 14% eu bod nhw wedi cael eu cyhuddo gan riant neu aelod arall o deulu disgybl, gyda thros 50% yn honni bod aelod o staff o’u hysgol nhw wedi wynebu cyhuddiad ffals o’r fath.
Yn ôl Cymdeithas yr Athrawon a Darlithwyr, a gomisiynodd y pôl, mae’r cyhuddiadau ar gam hyn yn ychwanegu at y pwysau sydd yn cael ei roi ar athrawon, gyda nifer yn ystyried gadael y gwaith.
Ac fe alwodd y Gymdeithas ar i’r llywodraeth newid y gyfraith fel bod ddim rhaid datgelu pwy oedd yr athrawon hynny oedd wedi cael eu cyhuddo ar gam.
Gyrru pobol o’u gwaith
Cafodd 685 o staff ysgol o Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon eu holi ar gyfer yr arolwg, gyda nifer yn rhoi tystiolaeth ychwanegol am eu profiadau.
Yn ôl y ffigyrau roedd 70% o’r achosion honedig y cafodd y staff eu cyhuddo amdanynt wedi digwydd wrth weithio gyda dosbarth neu grŵp o blant, a 24% o’r achosion ar dir yr ysgol ond y tu allan i’r dosbarth.
Cafodd cyhuddiadau eraill eu gwneud am dripiau ysgol neu sesiynau un i un, gyda 2% yn dweud bod y digwyddiad honedig wedi digwydd ar gyfryngau cymdeithasol.
Yn ôl un athro, roedd methiant rhieni i ddisgyblu rhai plant yn golygu eu bod yn dod i’r ysgol yn barod i herio athrawon ac roedd hynny’n debygol o yrru rhai ohonynt allan o’u swyddi.
Dywedodd athro arall oedd wedi bod yn dysgu ers 22 mlynedd bod disgyblion bellach yn troi pethau oedd yn cael ei ddweud gan staff ac yn gwneud “sylwadau difrifol” eu hunain.
Ac fe ddywedodd un athrawes fod ei gŵr hi wedi ceisio mynd yn ôl i’r gwaith ar ôl cyhuddiad ffals ond wedi colli pob hyder i ddysgu, ac yna fe fu farw o drawiad ar y galon yn ei 50au.
Newid y gyfraith
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Cymdeithas yr Athrawon a Darlithwyr, Dr Mary Bousted, ei bod hi’n bryd newid y gyfraith er mwyn amddiffyn staff rhag y fath gyhuddiadau anwir.
“Rydyn ni’n galw ar y Llywodraeth i newid y gyfraith fel bod gan staff addysgol yr un hawl i beidio â chael eu datgelu heblaw bod cyhuddiad swyddogol yn cael ei wneud,” meddai Mary Bousted.
“Heb hyn, mae perygl y bydd [y staff] dieuog hynny yn cael eu bywydau wedi eu difetha am ddim rheswm.”