Mae poblogrwydd Llafur wedi codi i 40% am y tro cynta’ ers bron i flwyddyn, yn y pôl diweddaraf o etholwyr Cymru cyn yr etholiad cyffredinol ar 7 Mai.
Does dim newid i’r Ceidwadwyr (25%) na UKIP (14%), tra bod Plaid Cymru hefyd wedi codi un pwynt canran i 11%.
Disgynnodd y Gwyrddion o un i 5%, yr un lefel o gefnogaeth ag sydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol.
Ond dyw’r pôl gan YouGov i ITV a Chanolfan Llywodraethiant Cymru ddim ar y cyfan yn dangos llawer o newid o’i gymharu â mis diwethaf.
Seddi’n newid dwylo?
Ar swing cyffredinol drwy Gymru, dim ond tair sedd fyddai’n newid dwylo o etholiad 2010.
Byddai Llafur yn cipio Gogledd Caerdydd oddi wrth y Ceidwadwyr a Chanol Caerdydd oddi wrth y Democratiaid Rhyddfrydol, ac fe fyddai’r Ceidwadwyr yn ennill Brycheiniog a Maesyfed oddi wrth y Democratiaid Rhyddfrydol.
Yn ôl yr Athro Roger Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, roedd y pôl yn newyddion da i Lafur gan mai hon oedd y trydydd pôl yn 2015 i ddangos “fod eu cwymp yn y polau wedi stopio a’u bod hyd yn oed yn dechrau troi’r rhod”.
Doedd hi ddim yn newyddion cystal i’r Democratiaid Rhyddfrydol, fodd bynnag, gydag 18% o’r rhai ddywedodd y bydden nhw’n dewis y blaid yn dweud eu bod yn annhebygol iawn o bleidleisio.