Fe fydd brechlyn i ymladd un math o lid yr ymennydd ar gael i fabanod yng Nghymru “cyn gynteg ag sy’n ymarferol”, meddai Llywodraeth Cymru.
Fe ddaeth y cyhoeddiad wedi misoedd o drafod rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a chwmni fferyllol Glaxo Smith Kline. Roedden nhw wedi methu dod i gytundeb ar gostau’r cyffur.
“O hyn ymlaen, bydd plant yn derbyn y brechlyn cyntaf pan yn ddeufis oes, ac yna dau ddos ychwanegol,” meddai datganiad y Llywodraeth am y brechlyn sy’n ymladd Math B yr haint ac sy’n effeithio fwya’ ar blant dan flwydd oed; ond yn gallu taro plant dan 5 oed, a phobol ifanc 15-19.
Yn ôl Ysgrifennydd Iechyd y DU, Jeremy Hunt, bydd y brechlyn ar gael eleni, a dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddai’r brechlyn yn cael ei roi yng Nghymru “cyn gynted ac sy’n ymarferol”.