Mae dyn wedi torri’i goes a dynes wedi’i chludo i’r ysbyty wedi i’r cwpwl, yn ol pob golwg, gael eu taro gan eu car eu hunain.
Fe gafodd Gwasanaeth Ambiwlans y West Midlands ei alw i’r digwyddiad yn Cheadle, Swydd Stafford, brynhawn ddoe.
Mae’r dyn, sy’n ei 20au, wedi derbyn triniaeth i’w goes, wedi iddo gael ei gludo i Ysbyty Brenhinol Stoke. Mae dynes ifanc wedi cael ei chludo i’r ysbyty hefyd yn diodde’ anafiadau i’w choesau.