Fe fydd cofeb i’r milwr Lee Rigby yn cael ei dadorchuddio yn Middleton, y dref lle’r oedd yn byw, heddiw.
Bydd y gofeb yn cael ei gosod yng ngerddi coffa Middleton ger Manceinion, ac fe fydd milwyr eraill yr ardal yn cael eu coffáu yn y gerddi yn y dyfodol.
Cafodd Rigby, 25, ei lofruddio y tu allan i farics Woolwich ym mis Mai 2013 gan eithafwyr Islamaidd.
Wrth groesawu’r gofeb, dywedodd ei fam, Lyn: “Bydd yn deyrnged hyfryd i Lee, oedd wedi peryglu ei fywyd bob dydd er mwyn gwasanaethu ei wlad.
“Dros gyfnod o amser, bydd y gofeb yn cofio nid yn unig Lee, ond milwyr eraill na fydd eu dewrder byth yn cael ei anghofio.”
Dywedodd ei dad, Philip McClure: “Rwy’n dal i ddod i delerau gyda’r hyn ddigwyddodd.
“Ni fydd Lee byth yn cael ei anghofio ac mae’r gofeb hon yn cadw’r atgofion amdano’n fyw yn ei dref ei hun.
“Gwnaeth e fwynhau cael ei fagu ym Middleton ac fe fydd hwn yn rywle i bobol ddod i dalu teyrnged mewn ffordd nad oedden nhw’n gallu o’r blaen.”
Dywedodd gwraig Lee Rigby, Rebecca: “Rwy’n falch fod y gofeb hon yn cael ei dadorchuddio ym Middleton.
“Fe ddylid ei weld fel ffordd o ddathlu ei fywyd gan mai dyna fyddai e am ei gael.
“Fe fydd pobol yn gallu dod yma mewn heddwch, cofio am Lee a myfyrio.”