Daeth cyfnod hesb Ferrari a Sebastian Vettel i ben wrth i’r Almaenwr sicrhau’r fuddugoliaeth yn Grand Prix Malaysia y bore ma.

Gorffennodd Vettel, oedd heb fuddugoliaeth drwy gydol 2014, 8.5 eiliad o flaen pencampwr y byd, Lewis Hamilton (Mercedes).

Nico Rosberg, hefyd o dîm Mercedes, oedd yn drydydd.

Dyma fuddugoliaeth gyntaf Ferrari ers i Fernando Alonso, sydd bellach wedi symud i dîm McLaren, ennill ar ei domen ei hunan ddwy flynedd yn ôl.

Hamilton oedd ar flaen y grid am y 40fed tro, ac fe lwyddodd i gadw Vettel a Rosberg y tu ôl iddo ar ddechrau’r ras.

Ond rheoli teiars oedd cyfrinach Ferrari, wrth i Vettel eu newid ddwywaith o’i gymharu â thair gwaith yr un i Hamilton a Rosberg.

Bu’n rhaid i Pastor Maldonado (Lotus) a Kimi Raikkonen (Ferrari) ddod i stop ar y lap gyntaf oherwydd cyflwr eu teiars, ond fe orffennodd Raikkonen yn bedwerydd yn y pen draw.

Cafodd Raikkonen gymorth y car diogelwch ar ddechrau’r bedwaredd lap, ac roedd y ras yng nghanol y pac yn ben agored am gyfnod, wrth i Hamilton ddisgyn i chweched a Rosberg i nawfed.

Wrth i Vettel stopio ar ôl 17 lap i newid ei deiars, aeth Hamilton ar y blaen a Rosberg yn ail, ond fe ddychwelodd Vettel i’r blaen o fewn chwe lap.

Aeth Hamilton yn ôl i’r pit yn fuan wedyn, ac roedd trafferthion i’r Sais ar ei drydydd stop wrth i’r teiars anghywir gael eu gosod ar ei gar.

Vettel reolodd y lapiau olaf i selio’r fuddugoliaeth – ei bedair buddugoliaeth ym Malaysia yw’r mwyaf i unrhyw yrrwr ar y trac hwn.