Mae cynadleddwyr yr SNP wedi cymeradwyo cynllun i gyflwyno rhestrau o ymgeiswyr benywaidd yn unig ar gyfer etholiad Senedd yr Alban y flwyddyn nesaf.

Cafodd gwelliant i bolisi’r blaid ei gynnig yn Glasgow.

Bellach, fe fydd pwyllgor gwaith yr SNP yn gorchymyn etholaethau i gyflwyno rhestrau sydd yn cynnwys enwau menywod yn unig pe bai un o’r aelodau seneddol yn camu o’r neilltu.

Pe bai gan y blaid fwy nag un ymgeisydd mewn etholaeth, byddai’n rhaid i o leiaf un ohonyn nhw fod yn fenyw.

Dywedodd swyddog menywod y blaid, Tasmina Ahmed-Sheikh: “Mae menywod yn cynrychioli 52% o’r boblogaeth yn yr Alban, ond am rhy hir, maen nhw wedi cael eu tan-gynrychioli ym mywyd cyhoeddus yr Alban.

“Tra bod yr SNP wedi gwneud peth cynnydd wrth ddethol ymgeiswyr ar gyfer yr etholiad cyffredinol, roedd hi’n amlwg fod angen gweithredu ymhellach.

“Bydd y camau heddiw yn galluogi ein plaid i gymryd camau rhesymol a synhwyrol i sicrhau cydraddoldeb ymhlith ein hymgeiswyr – ac i sicrhau nad oes rhwystrau bellach i fenywod wrth iddyn nhw chwarae rhan lawn yn y broses wleidyddol.”