Fe fydd gweithiau celf y canwr o Gymru, Ian ‘H’ Watkins – gynt o’r band pop Steps – yn cael eu harddangos am y tro cyntaf yn Llanrwst heddiw.

Bydd gwaith y canwr o Gwm Rhondda yn rhan o arddangosfa yn Oriel Ffin-y-Parc heddiw.

Yn y byd celf y mae Watkins wedi’i hyfforddi ar ôl dilyn cwrs yn Ysgol Gelf Caerdydd.

Mae’r gweithiau’n seiliedig ar ffoi i dirlun Cymru, ac mae’n defnyddio’r tywydd – y niwl a’r gwynt yn benodol – i gyfleu ei ddyhead i ymollwng i fyd natur.

Bydd ei waith i’w weld yn yr oriel tan Ebrill 22.