Mae hacwyr wedi torri i mewn i system gyfrifiadurol British Airways, ac wedi cael mynediad i gyfrifon personol degau o filoedd o gwsmeriaid.

Ond mae’r cwmni’n mynnu nad yw manylion personol wedi cael eu dwyn, ac mae’r cyfrifon dan sylw wedi cael eu rhewi tra bod ymchwiliad yn parhau.

Dim ond canran fach o gwsmeriaid y cwmni sydd wedi cael eu heffeithio, meddai British Airways, ac nid yw’r hacwyr wedi cael mynediad i enwau, cyfeiriadau na manylion banc unigolion.

Mae’r cwmni wedi ymddiheuro, gan ddweud eu bod nhw’n disgwyl i’r systemau ddychwelyd o fewn diwrnod neu ddau.

Dydy hi ddim yn glir eto pwy yw’r hacwyr, ond mae’n ymddangos bod rhaglen gyfrifiadurol wedi cael ei defnyddio er mwyn canfod gwendidau yn niogelwch y cwmni.