Fe fydd Wrecsam yn gobeithio codi Tlws yr FA pan fyddan nhw’n herio North Ferriby ar gae enwog Wembley brynhawn Sul.
Dyma fydd ail ymddangosiad y Cymry yn y rownd derfynol, wedi iddyn nhw ennill y gwpan yn 2013.
Ond mae’r Dreigiau’n mynd i Wembley yn dilyn eu colled o 2-0 yn erbyn Nuneaton yn gynharach yr wythnos hon – y tro cyntaf iddyn nhw golli mewn pum gêm.
Mae Wrecsam wedi curo Southport, Stockport, Gateshead, Halifax a Torquay ar eu ffordd i’r ffeinal.
Mae’n annhebygol y bydd chwaraewr dan 21 Awstria, Dan Bachmann yng ngharfan Wrecsam wedi iddo gael ei alw i’r garfan ryngwladol unwaith eto.
Fe ddylai Wes York a Blaine Hudson fod yn holliach, ac mae disgwyl i Luke Waterfall, Kieron Morris a Jay Harris gael eu cynnwys yn y garfan.
Fe allai Neil Ashton wneud ymddangosiad rhif 250 yng nghrys Wrecsam pe bai’n cael ei ddewis.
Er i North Ferriby chwarae yn Wembley yn y gorffennol, dyma’u hymddangosiad cyntaf yn ffeinal Tlws yr FA.
Maen nhw’n ddi-guro mewn pedair gêm yn y nawfed safle yng nghynghrair Vanarama’r Gogledd.
Mae’r gic gyntaf am 1 o’r gloch, a’r cyfan yn fyw ar BT Sport.