Mae’r dyfarnwr rygbi Nigel Owens wedi canmol dyn anfonodd neges homoffobig ato ar Twitter am gynnig ymddiheuriad.

Dywedodd Owens wrth raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales ei fod yn gobeithio y gall y dyn o Gynwyl Elfed yn Sir Gâr symud ymlaen â’i fywyd yn dilyn y digwyddiad.

Cafodd ymchwiliad ei gynnal gan Heddlu Dyfed-Powys yn dilyn llu o gwynion gan y cyhoedd.

Ond ymddiheurodd James wrth y dyfarnwr yng ngorsaf heddlu Caerfyrddin yr wythnos diwethaf.

Dywedodd Nigel Owens: “Mae’n cymryd dyn go iawn i ddweud eich bod yn flin ac i wneud hynny a gwneud hynny’n gyhoeddus, mae’n anfon neges gref allan.

“Rwy’n credu mai’r neges bwysig yma yw fod rhaid canmol pobol sydd wir yn flin am eu gweithredoedd a derbyn fod yr hyn wnaethon nhw’n anghywir ac yn gamgymeriad.

“Yna gallwn ni gyd symud ymlaen ac maen nhw a phobol eraill yn gwella fel pobol o ganlyniad.”