Mae’r heddlu’n ymchwilio i fygythiadau i ladd cyfarwyddwr cyffredinol y BBC, yr Arglwydd Tony Hall.

Yn ôl adroddiadau yn y Mail on Sunday, roedd y bygythiadau’n gysylltiedig â’r penderfyniad i beidio adnewyddu cytundeb y cyflwynydd Jeremy Clarkson.

Cafodd Clarkson wybod na fyddai’n cael parhau fel cyflwynydd Top Gear yn dilyn ymosodiad ar gynhyrchydd y rhaglen, Oisin Tymon mewn gwesty yn Swydd Efrog.

Mae adroddiadau bod yr heddlu’n gwarchod cartref yr Arglwydd Hall, sy’n costio hyd at £1,000 y dydd.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Scotland Yard: “Mae’r heddlu yn Westminster yn ymchwilio i honiadau o fygythiadau i ladd.

“Cafodd yr honiad ei wneud i’r heddlu ar ddydd Mercher, Mawrth 25. Mae’r ymchwiliad yn parhau. Does neb wedi cael ei arestio.”

Cafodd yr Arglwydd Hall ei benodi’n gyfarwyddwr cyffredinol ym mis Ebrill 2013, wedi i George Entwistle ymddiswyddo ar ddechrau’r sgandal ynghylch honiadau yn erbyn Jimmy Savile.

Dywedodd yr Arglwydd Hall ddydd Mercher fod Clarkson wedi “croesi’r llinell” wrth ymosod ar Oisin Tymon ar Fawrth 4.

Mae’r BBC wedi gwrthod gwneud sylw am y bygythiadau hyd yn hyn.