Mae Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, Jeremy Hunt wedi cyhoeddi cynlluniau i gynnig brechlyn i bob babi yn erbyn llid yr ymennydd B.
Gwledydd Prydain fydd y cyntaf i fabwysiadu cynllun o’r fath ar ôl i Lywodraeth Prydain ddod i gytundeb â chwmni GlaxoSmithKline.
Daw’r penderfyniad wedi iddi ddod i’r amlwg nad yw’r cyffur a gafodd ei awgrymu dros flwyddyn yn ôl gan arbenigwyr, Bexsero MenB, ar gael o hyd.
Bydd y cyffur yn cael ei ychwanegu at gynllun brechu plant, sy’n golygu y bydd ar gael i fabanod deufis oed.
Dywedodd Jeremy Hunt: “Rwy’n falch iawn mai ni fydd y cyntaf yn y byd i gael rhaglen brechu MenB ar draws y wlad, gan helpu i amddiffyn ein plant yn erbyn yr afiechyd niweidiol.
Mae disgwyl i’r cynllun gael ei weithredu o fis Medi ymlaen.
Mae nifer o elusennau wedi croesawu’r cynllun, gan ddweud y bydd yn achub bywydau.