Mae dyn 44 oed wedi’i gyhuddo o droseddau yn ymwneud a chaethwasiaeth a thwyll, a hynny yn erbyn 10 o ddioddefwyr honedig.

Mae Timothy Joyce yn wynebu cyfanswm o 19 o gyhuddiadau sy’n cynnwys harasio, blacmel, ymosod a nifer o gyhuddiadau eraill yn ymwneud a gorfodi pobol i weithio.

Mae’r cyhuddiadau yn honni fod y pethau hyn wedi digwydd rhwng Ebrill 2010 a mis Mawrth 2015.

Fe gafodd Timothy Joyce ei arestio gan Heddlu Thames Valley wedi iddyn nhw gael warant i archwilio nifer o gyfeiriadau yn Rhydychen.