Mae merch 15 oed a dyn 22 oed wedi marw, wedi i’r car yr oedden nhw’n teithio ynddo daro coeden.
Fe ddigwyddodd y ddamwain ger Stockport tua 1.20 o’r gloch fore heddiw.
Bu farw’r ferch yn ei harddegau yn y fan a’r lle, tra bu farw’r dyn yn yr ysbyty yn ddiweddarach.
Mae dau ddyn arall yn parhau yn yr ysbyty yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng y car Vauxhall Corsa a choeden.Mae dyn 23 oed mewn cyflwr difrifol, ac mae dyn 18 oed mewn cyflwr sefydlog, meddai llefarydd ar ran Heddlu Greater Manchester.